Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.06 - 10.36 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r
cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dulson, National Deaf Children's Society (NDCS) Wyn, Elin Wyn Munir, Cardiff & Vale College Rogers, Sustainable Acoustics Ltd |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei rhan.
2 Deisebau newydd
2.1 P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau a sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd y byddai:
2.2 P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant a Chwaraeon a sylwadau pellach gan y deisebydd ac eraill. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am farn y Dirprwy Weinidog ar sylwadau pellach y deisebydd ac eraill.
2.3 P-04-608 Ymchwiliad i’r GIG yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau pellach y deisebydd.
2.4 P-04-610 Gwrthdroi’r Toriadau i Gronfa Arian Wrth Gefn Prifysgolion
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau a chytunodd y byddai:
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-04-541 Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb am i’r deisebwyr ddiolch i'r Pwyllgor am ei ran yn y mater hwn a nodi y byddent yn bwrw ymlaen â thrafodaethau yn y dyfodol â'r Prif Weinidog yn uniongyrchol.
3.2 P-04-549 Gwnewch ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn Anthem Genedlaethol Swyddogol Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb.
3.3 P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb y ffaith bod cyllid yn cael ei gytuno i adeiladu pont newydd ar y cyfle cyntaf, sef amcan y ddeiseb wreiddiol i bob pwrpas.
3.4 P-04-574 Bws ym Mhorth Tywyn
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
· i gau'r ddeiseb gan ei bod yn glir bellach mai penderfyniad gweithredol i’r awdurdod lleol dan sylw yw’r mater hwn; ac
· er nad yw’n cymryd unrhyw gamau penodol pellach o ran y ddeiseb hon, byddai’n ei chadw mewn cof wrth ystyried deisebau eraill ar wasanaethau bysiau 'isranbarthol' y bydd y Pwyllgor yn gweithio arnynt.
3.5 P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
3.6 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
3.7 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
3.8 P-04-533 Cynllunio Amgylcheddol ar gyfer Safleoedd Tyrbinau Gwynt ar Raddfa Fach
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil cyhoeddiad y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Nododd y Pwyllgor hefyd mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw nifer o faterion eraill a godwyd gan y deisebwyr.
3.9 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Athro Fox, drwy’r deisebydd, a yw’n gallu rhoi tystiolaeth o achosion o saethu er 2009, yn unol â chais swyddogion Llywodraeth Cymru.
3.10 P-04-555 Rhwystrwch y cynlluniau anfoesol a llym arfaethedig i’w gwneud yn orfodol i ficrosglodynnu cŵn
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb.
3.11 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros nes y bydd Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn cwblhau trafod ei Flaenraglen Waith ar 10 Rhagfyr.
3.12 P-04-584 Bil Cynllunio Cymru i Ddiogelu Meysydd Tref a Phentref yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
· i gau'r ddeiseb gan fod y Bil Cynllunio (Cymru) wedi cael ei gyflwyno yn y Cynulliad ar 6 Hydref ac y mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar hyn o bryd yn craffu arno yng Nghyfnod 1; ac
· wrth gau'r ddeiseb, i ofyn i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ystyried y ddeiseb wrth adrodd i'r Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
3.13 P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru.
Gweler y camau a gytunwyd o dan 3.14.
3.14 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i dynnu sylwadau pellach y deisebwyr at sylw Bwrdd Iechyd y Brifysgol a gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor ymhen 3 mis am gynnydd o ran datblygu a darparu gwasanaethau wedi cyhoeddi’r adroddiad ar Astudiaeth Gofal Iechyd y Canolbarth.
3.15 P-04-560 Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
3.16 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
· i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd; ac
· i ystyried y ddeiseb yn y dyfodol ochr yn ochr â P-04-466 (gwasanaethau iechyd gogledd Cymru) a P-04-479 (Ysbyty Coffa Tywyn), sy'n codi nifer o'r un materion.
3.17 P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ofyn bod y ddeiseb yn cael ei hystyried yng ngwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar lywodraethu byrddau iechyd yn GIG Cymru.
3.18 P-04-580 Cyfyngiadau ar Roi Gwaed
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
· i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd; ac
· i anfon yr ohebiaeth oddi wrth Wasanaeth Gwaed Cymru at y Gweinidog gan ofyn iddo ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor.
3.19 P-04-588 Siarter ar gyfer Plant a Thadau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
· i geisio sylwadau pellach gan y Gweinidogion ar sylwadau’r deisebwyr, yn arbennig ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried casglu data am ymgysylltu gwrywaidd a darparu gwybodaeth bellach ynghylch pam na ellir rhannu Rhestr Wirio Asesu Lles Plant a’r Glasoed (CAWAC) yn ehangach; ac
· gwneud penderfyniad ynghylch cau’r ddeiseb.
3.20 P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl Ifanc
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.
4 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Atebodd y tystion canlynol gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor: